Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2025

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:                              Mae darparwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu cyrsiau wedi eu dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cyn iddynt lanlwytho manylion y cwrs i system Gwasanaeth Rheoli Cyrsiau (CMS) y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC). Oherwydd y nifer mawr o gyrsiau a ddelir ar CMS, nid yw’n bosibl i SLC asesu pob cwrs wrth iddo gael ei lanlwytho ac mae SLC yn dibynnu ar asesiad y darparwyr eu hunain bod eu cyrsiau yn bodloni gofynion dynodi perthnasol.

 

Cynhaliodd SLC adolygiad o CMS yn ystod yr haf i asesu cydymffurfedd darparwyr â gofynion dynodi Cymreig a defnyddiodd 30 Mehefin 2025 fel dyddiad cau i nodi unrhyw geisiadau am gymorth gan fyfyrwyr Cymreig newydd, a myfyrwyr Cymreig sy’n parhau, ar gyfer cyrsiau nad oeddent wedi eu dynodi. Ymgysylltwyd â swyddogion polisi a rhoddwyd gwybod iddynt am y canlyniad ddechrau mis Gorffennaf. Nid oedd modd asesu opsiynau i roi sylw i sut y gellid darparu cymorth at ffioedd dysgu o dan y fframwaith rheoleiddio hyd nes bod gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu gan SLC yn dilyn ei adolygiad diwedd Mehefin.

 

Datblygodd swyddogion Llywodraeth Cymru ddatrysiad i’r mater hwn. Fodd bynnag, o ystyried y ffenestr gyfyngedig iawn i ddatblygu datrysiad a rheoliadau drafft, nid oedd digon o amser cyn 1 Medi i ganiatáu i’r Rheoliadau ddod i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl i’r offeryn gael ei osod. Byddai unrhyw oedi wedi cael effaith niweidiol ar y myfyriwr a’r darparwr.